Gair Wythnosol - 25/5/20
Croeso i’r nawfed rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o gartref i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw yn eich cartrefi, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.
Amser Cystadlu – Celf Glitsh
Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #lowlightphotography yr wythnos diwethaf, Liza Cauldwell (@lizacauldwell)! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.
Yr wythnos hon rydym yn canolbwyntio ar y byd digidol gyda’n thema newydd, celf glitsh. Cawsom ein hysbrydoli gan yr artist sydd wedi cyfrannu at Many Voices, One Nation, Huw Alden Davies. Mae ei brosiect ef ‘Dreaming in Colour’ yn archwilio’r syniad o ficrogenhedlaeth, y ‘mileniaid-x’, sy’n pontio’r bwlch rhwng dau gyfnod a ddisgrifiwn fel y Genhedlaeth X a’r Mileniaid, gan ehangu safbwynt y diwylliant Cymreig drwy ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens.
Os ydych yn anghyfarwydd â chelf glitsh, rydym wedi darparu gwybodaeth ac offer isod i’ch helpu i greu eich celf glitsh eich hun.

Sut i gystadlu:
Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #glitch. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.
Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.
Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: Hanner nos ar Ddydd Sul 31 Mai.
Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:

Sut i: Celf glitsh
Rydym wedi paratoi’r canllaw defnyddiol hwn am arbrofi gyda glitsh neu greu gwallau yn eich ffotograffau eich hun ar gyfer y gystadleuaeth yr wythnos hon.
Mwy o wybodaeth

Ceisiadau’r wythnos diwethaf
Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth #lowlightphotography yr wythnos diwethaf. Ewch draw i’n tudalen ‘Sianel’ i weld y ceisiadau dros yr wythnosau a’r diweddaraf gan Ffotogallery hefyd.

Screen Walks
Yn rhan o raglen ddigidol Photographers’ Gallery, mae Screen Walks yn gyfres o archwiliadau o ofodau ar-lein dan arweiniad artistiaid/ymchwilwyr, sydd wedi eu ffrydio’n fyw. Mae’r holl ddigwyddiadau ar gael i’w gwylio ar-lein erbyn hyn.

Oriel Lockdown
Mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn chwilio am waith sy’n ymateb i’r pandemig i’w gynnwys mewn arddangosfa arbennig pan fydden nhw’n ail agor. Mae’n agored i unrhyw gyfrwng a gallwch ganfod sut i gymryd rhan am ddim isod.

Bod yn greadigol dan gwarantin
Mae Sofa Share Wales yn ffrydio dair gwaith y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos i’ch cysylltu chi ag amrywiaeth o bobl greadigol. Ewch draw i’w tudalen Facebook i weld yr amserlen ddiweddaraf, gan gynnwys gweithgareddau ffotograffiaeth, cerddoriaeth llenyddiaeth a drama.

Amber + Side Gallery
Yn ogystal â’u harchif estynedig, mae gan Amber + Side Gallery yn Newcastle gasgliad amrywiol o fideos a sgyrsiau gan artistiaid, ynghyd â ffilmiau o Side Cinema y gallwch eu gwylio am ddim ar-lein.