Sianel / 16 Chwef 2022

Meet The Kickstarters! Ruth Holliday

Mae Ffotogallery wedi cyfweld pob un o aelodau ein tîm Kickstart, a threfnwyd hynny gan un o’r bobl ar Kickstart Joshua Jones, am eu bod nhw’n eu gadael ni nawr i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r cyfweliadau blog hyn yn ffordd o ddathlu eu creadigedd a’u gwaith caled, i ddangos pwy ydyn nhw ac i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i Ffotogallery yn ystod yr amser maen nhw wedi bod yma. Os ydych chi wedi bod i’r Ŵyl Diffusion neu i unrhyw rai o’n harddangosfeydd a'n digwyddiadau, yna byddwch wedi gweld eu hwynebau’n eich croesawu wrth y drws, yn paratoi diodydd neu’n dogfennu’r digwyddiad.

Gair amdanoch chi:

Rwy’n hanu’n wreiddiol o Swindon, a gafodd ei ddisgrifio’n garedig iawn gan Jason Fforde fel ‘gem yng nghoron yr M4’, a gadewais Brifysgol Rhydychen yn ddiweddar gyda gradd mewn Saesneg Iaith a Llên. Yn y brifysgol, cymerais ran mewn prosiectau academaidd oedd yn amrywio o weledigaethau cyfrinwyr yr oesoedd canol i hunangofiant arbrofol Richard Ayoade; plethwaith cyfoethog o syniadau sy’n dal i sbarduno fy ymdrechion i ysgrifennu!

Ar hyn o bryd rwy’n datblygu arferion creadigol sy’n cynnwys barddoniaeth, collage a gwneud sînau. Gallwch weld esiamplau o fy ngwaith ar Instagram: @nightofthelivingzine.

Beth yw rôl eich swydd yn Ffotogallery, a beth yw diwrnod gwaith arferol i chi?

Fi yw’r Cynorthwyydd Gweinyddol yn Ffotogallery. Mae prif ofynion y rôl hon yn cynnwys cadw trefn ar anfonebau a derbynebion a helpu Alex (y Rheolwr Gweithrediadau) i gadw cofnodion Ffotogallery yn eu trefn. Mae wedi bod yn gipolwg gwych ar y pethau sy’n gwneud i’r oriel weithio, ac yn brofiad gwerthfawr o ran deall sut mae sefydliad o’r maint hwn yn cadw’n drefnus.

Agwedd arall i’m rôl yw cyfathrebu gydag artistiaid ac amrywiol unigolion, fel athrawon ac aelodau o’r gymuned, sy’n cysylltu â Ffotogallery ynglŷn â phrosiectau posibl at y dyfodol, ymweliadau ysgolion/prifysgol â’r oriel, a digwyddiadau cymunedol/celfyddydau y gall Ffotogallery gymryd rhan ynddyn nhw.

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau eraill. O ganlyniad i natur hyblyg gweithio mewn oriel sy’n cylchdroi ei harddangosfeydd yn berthnasol o aml, rwyf wedi gweld a gweithio ar symposia, sgyrsiau artistiaid, sesiynau llofnodi llyfrau, sgrinio ffilmiau ac, wrth gwrs, arddangosfeydd. Mae’r tîm sydd gennym yma, a’r sefydliad i gyd, yn hynod o ymroddedig i gymryd rhan yn y gymuned leol, ac mae helpu i drefnu a darparu’r digwyddiadau hyn wedi bod yn astudiaeth hynod o werthfawr mewn logisteg a threfniant, ond hefyd yn wledd i’r synhwyrau creadigol a deallusol.

Ydych chi wedi gweithio ar arddangosfa neu brosiect yr ydych yn arbennig o falch ohonynt?

Ym mis Rhagfyr 2021, rhedais innau a Joshua (y Cynorthwyydd Digwyddiadau ac Arddangosfeydd) weithdy gwneud sînau a collage yn yr oriel hyfryd yn Ffotogallery. Roedd y gweithdai hyn yn rhad ac am ddim i’r ymwelwyr ac yn dathlu diwedd cyfres o weithdai barddoniaeth ac ysgrifennu yr oedd Joshua wedi bod yn eu cynnal bob wythnos am fisoedd lawer cyn hynny.

Yn y sesiynau, roeddem ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a phromptiau oedd yn golygu bod pobl yn gallu gadael y sesiwn gyda sîn 8 tudalen cyflawn i’w gymryd adref. Roedd yn bleser o’r mwyaf gallu pasio cyfres o sgiliau a thechnegau i bobl eraill sydd wedi dod â chymaint o lawenydd i mi!

Oes gennych chi hoff atgof o weithio yn Ffotogallery?

Rwy’n meddwl mai fy hoff atgof o weithio yn Ffotogallery yw cael fy stondin fy hun yn Ffair Sînau Casnewydd a drefnwyd gan yr hyfryd Freya (Cynorthwyydd Technegol) yn rhan o Ŵyl Diffusion.

Dyma oedd y tro cyntaf i mi allu dangos a gwerthu fy ngwaith yn y byd go iawn, yn hytrach nag ar-lein. Cefais lawer o ysbrydoliaeth o sgwrsio gyda phobl am fy ngwaith a’u gweld yn ei fwynhau yn y fan a’r lle!

Beth yw eich cynlluniau ar ôl Ffotogallery?

Rwyf wedi llwyr fwynhau gweithio yn Ffotogallery a’r profiad a gefais yn y celfyddydau a’r sectorau elusennol. Rwy’n gobeithio datblygu’r sgiliau rwyf wedi eu dysgu yn Ffotogallery drwy gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae busnesau elusennol yn gweithredu ar lefel facro, mewn perthynas â byd cyllid a grantiau. Felly, ar hyn o bryd rwy’n chwilio am swydd lle gallaf barhau i ddatblygu’r sgiliau hyn mewn rôl debyg a pharhau i ysgrifennu cerddi a gwneud sînau!

Instagram: @nightofthelivingzine