Cylchlythyr mis Hydref

FFOCWS
Ymunwch â ni ar gyfer noson ragddangos Ffocws, ar Ddydd Iau 3 Tachwedd, rhwng 6pm a 9pm.
Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd neu sy'n dechrau dod i'r amlwg. Ei nod yw arolygu'r graddedigion diweddar sydd wedi astudio'r celfyddydau gweledol yng Nghymru yn ogystal â chynnig cyfleoedd i'r rheiny sydd heb fod mewn addysg gelf a chreadigol ffurfiol. Mae Ffotogallery yn cyflwyno gwaith deuddeg artist gwych sy'n herio'r broses a'r cyfrwng ffotograffig a chymhwysiad ffotograffiaeth.
Oriau agor yr Oriel yw 12 - 5pm, bob Dydd Mercher – Ddydd Sadwrn.

More Than A Number yn AfrikaEye
7fed – 15fed Tachwedd, The Graffiti Room @ Trinity Centre, Bryste.
A golloch chi’r cyfle i weld arddangosfa Ffotogallery More Than a Number yn ystod Diffusion 2021? Mae’r sioe hon yn rhan o ŵyl AfrikaEye ym Mryste ac mae’n cynnwys 12 artist o bob cwr o Affrica – artistiaid sydd wedi eu dal rhwng moderniaeth a thraddodiad ac sy’n archwilio sut mae gwahanol ddiwylliannau’n cynhyrchu ystyr drwy ddelweddau.

Galwad Agored Cymunedau o Ddewis: Cyhoeddi’r Artistiaid a Ddewiswyd
Mae’n bleser enfawr gan Ffotogallery a Chennai Photo Biennale gyhoeddi enwau terfynol yr alwad agored ar gyfer Cymunedau o Ddewis! Llongyfarchiadau i ...
Gareth Wyn Owen @owengw
Kashish Kochhar @sinkinginwater
Paribartana Mohanty @paribartana_mohanty
Rishi Kochhar @rishi_kochhar
Susan Matthews a Tessa Holly @tessaholly @siren_wire
Byddwn yn cyhoeddi mwy o bethau cyffrous cyn hir, felly cadwch lygad am ragor o wybodaeth.
Mae’r cydweithio a’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl diolch i’r cymorth gwych gan y British Council yn rhan o Dymor Diwylliant India/DU.

Beyond Incarceration: Tudor Etchells
Mae curadur Ffotogallery, Cynthia Sitei, yn ymuno â Tudor Etchells i drafod ei bapur a ysgrifennodd yn ddiweddar yn archwilio prosiect Edgar Martin ‘Yr hyn sydd gan Ffotograffiaeth a Charcharu’n Gyffredin â Fâs Wag’, a rôl ffotograffiaeth o ran herio’r syniad o garchar.
Mae Tudor Etchells yn artist ffotograffig, dogfennwr, addysgwr ac ymchwilydd. Mae ganddo ddiddordeb yn y rôl y mae’r ddelwedd yn ei chwarae mewn bytholi normau’r ffiniau, a sut mae’r ffotograff/ydd yn gallu symud y tu hwnt i’r status quo presennol. Mae ei waith wedi ei ddylanwadu gan ei swydd o ddydd i ddydd fel cyfreithiwr mewnfudo a lloches yn Ne Cymru a Bryste.

Y Wal Goch
Ymunwch â’r ffotograffydd dogfennol Anthony Jones i sgwrsio am ei waith diweddar Y Wal Goch; Y Wal Goch yw’r ymadrodd y bydd llawer ohonoch yn ei adnabod fel enw cefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Yn ystod y sgwrs, bydd Anthony yn trafod y diwylliant a’r angerdd hwn yn ogystal â’r ffordd y llwyddodd i gael y ffotograffau a ddefnyddiwyd yn y prosiect.
Efallai yr hoffech y rhain hefyd:

Dydd Mawrth Te a Theisen (8fed Tach yn lle’r 1af!)
Bydd sesiwn nesaf Dydd Mawrth Te a Theisen ar 8 Tachwedd, felly gallwch fwynhau Ffocws ar yr un pryd. Bydd y staff wrth law, fel y maent bob tro, i’ch croesawu ac i siarad â chi am beth o’r gwaith yn yr arddangosfa,

Enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Calan Gaeaf
Llongyfarchiadau i Lowri Crook, enillydd ein cystadleuaeth ffotograffiaeth arswydus!
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran; gallwch weld holl gyflwyniadau arswydus eleni ar ein gwefan.

Yr Ystafell Goch
Mae Cyfeillion Ffotogallery Simon Regan a Marc Arkless wedi agor Yr Ystafell Goch, sy’n ystafell gydweithredol lle mae print digidol ac analog yn cwrdd. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys hurio ystafell dywyll yn ogystal â gwasanaethau argraffu digidol a mwy.

Galwad Agored Coleg Celf Abertawe
Mae Ffoto Abertawe yn gwahodd pobl greadigol 14-19 oed o unrhyw gefndir i gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa yn oriel gelf gyfoes fwyaf newydd Abertawe, Stiwdio Griffith. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: Ionawr 7fed 2023. 17.00 GMT.
O ddiddordeb pellach
-
ArddangosfaFFOCWS
Ada Marino, Alice Durham, Billy H. Osborn, Dione Jones, Ed Worthington, Jack Winbow, Kerry Woolman, Laurentina Miksys, Laurie Broughton, Paris Tankard, Pinar Köksal, Ross Gardner -
ArddangosfaMore Than A Number at Afrika Eye
-
DigwyddiadY Wal Goch - Sgwrs
Anthony Jones -
Beyond Incarceration: Tudor Etchells