Sianel / 19 Ebrill 2021

Ffotogallery / PAWA 254 - Where's My Space?

Pobl greadigol o Gymru a Kenya’n arwain prosiect digidol arloesol sy’n gofyn i bobl ifanc yn y ddwy wlad “Where’s my space?”

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi lansiad Where’s my Space? sy’n brosiect digidol cydweithredol sy’n tynnu dau gorff ynghyd – Ffotogallery, sef yr asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol i Gymru, a PAWA254 yn Kenya, sef hyb celf a diwylliant cydweithredol dynamig sy’n derbyn, meithrin a rhoi hwb i brosiectau creadigol a phrosiectau a yrrir gan y gymuned i ddod â newid cymdeithasol. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl diolch i’r British Council, Cymru drwy ei raglen Mynd yn Ddigidol sy’n canolbwyntio ar fentrau digidol ac ymatebion y sector diwydiannau creadigol a’r celfyddydau yng Nghymru a rhanbarth Affrica Is-Sahara i’r pandemig Covid-19, yn ogystal â mapio cyfleoedd newydd a ffyrdd arloesol o rannu ac arddangos gwaith ac arferion artistig.

Bydd y ddau sefydliad yn cydweithio o bell i greu man cyfarfod rhithiol, neu ‘Base Noma’ (i ddefnyddio ymadrodd o Kenya) lle gall pobl ifanc greadigol o’r ddwy wlad ddod ynghyd, cynnal sesiynau dangos a dweud, arddangos eu gwaith i gynulleidfaoedd ar-lein a rhannu eu syniadau a’u profiadau bywyd. Mae’r prosiect yn gyfle i ddau sefydliad diwylliannol dynamig gyd-gynllunio a datblygu lle rhithiol unigryw ar gyfer adrodd straeon gweledol, gan weithio gydag artistiaid o Kenya a Chymru sy’n dechrau dod i’r amlwg. Bydd modd agor y cynnwys digidol ar liniaduron, cyfrifiaduron, ffonau clyfar a thabledi, a bydd ar gael mewn cyfuniad â phlatfform cyfryngau cymdeithasol fel Facebook ac Instagram i ehangu’r effaith a’r cyrhaeddiad. Mae’r prosiect yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru, Kenya a gwledydd eraill i gyfranogi mewn dadleuon a chynnig eu hymatebion creadigol eu hunain i’r cwestiwn Where’s my space?

“Cyn y pandemig a’r cyfnod clo dilynol, byddai pobl ifanc yn cwrdd ac yn ymgasglu tu allan yn aml iawn mewn caffis, bwytai, bariau, clybiau ieuenctid, canolfannau celf, campfeydd, sinemâu ac hyd yn oed yn yr ysgol ac yn eu cartrefi i sgwrsio, cymdeithasu a gwneud rhywbeth, boed greadigol, addysgol neu fel arall. Ond, pan gaeodd y cyfleusterau hyn, a phopeth arall, yn ystod y cyfnod clo daeth bywyd yn arbennig o anodd i bobl ifanc am nad oedd ganddyn nhw ‘rywbeth i’w wneud’. I lawer ohonynt, mae’r cyfnod clo wedi amharu ar eu bywydau cymdeithasol. Yn wahanol i bobl hŷn, dydy pobl ifanc ddim yn ei chael hi’n hawdd aros gartref neu ganfod rhywbeth i’w wneud yn ystod y cyfnodau clo, ac mae cau’r mannau hyn wedi golygu nad ydyn nhw’n gallu cymdeithasu gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd estynedig”.
- David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery

Mae’r amodau gartref yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn arbennig o heriol i lawer o gartrefi, gyda rhai pobl ifanc yn gaeth i dai gorlawn heb fawr o le preifat a llai o gyfle, neu ddim cyfle o gwbl, i gael cymorth yn eu ffordd arferol. Mae hwn yn brofiad y mae’r ddau sefydliad partner wedi ei weld o ran profiadau pobl ifanc yng Nghymru a Kenya. Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau economaidd a chymdeithasol, ychydig iawn o gyfle sydd gan bobl ifanc yn aml iawn i fynd ar blatfformau ar-lein a fyddai’n gadael iddyn nhw gysylltu â’u cyfoedion ac, yn dibynnu ar eu safle yn hierarchaeth y teulu, mae’n gallu bod yn anodd iddyn nhw gael tro ar ddyfeisiau prin eu teulu.

Mae Where’s my space? yn rhoi cyfle i bobl ifanc greadigol greu eu gofod rhithwir eu hunain. Man y gallan nhw uniaethu ag o yn ffisegol, un y gallan nhw ei ailgreu a’i ail ddychymygu yn y byd digidol gan greu hanes parhaol o gyd-brofiadau ar draws diwylliannau a ffiniau wrth i ni ddod allan yn raddol o effeithiau gwaethaf y pandemig Covid-19.

Yn 2018-2019, aeth PAWA254 ati mewn partneriaeth â sefydliadau ac unigolion lleol, i ganfod ac ail hawlio mannau cyhoeddus sydd wedi bod yn prinhau wrth i unigolion grymus gyda phocedi dwfn yn Nairobi brynu’r lleoedd hyn ar frys. Cychwynnwyd y fenter hon, dan arweiniad yr ifanc, mewn ymateb i’r galw ar sefydliadau yn y gymuned i feddwl am brosiect (Cystadleuaeth ‘Changing Faces’) a fyddai’n helpu i hawlio mannau cyhoeddus yn eu cymunedau yn eu holau.

Dyma esboniad Ivy Kihara, Cyfarwyddwr Gweithredol yn PAWA254:

“Roedd gofyn i grwpiau oedd yn cymryd rhan sicrhau bod y lleoedd newydd yn addas i blant, yn wyrdd ac yn defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu. Derbyniodd y prosiect fwy na chant o geisiadau a chododd arian i helpu i wireddu’r breuddwydion hynny. Canlyniad y cymorth hwn oedd eu bod nhw wedi llwyddo i ysgogi’r rhan fwyaf o’r grwpiau ieuenctid lleol i ail hawlio a gweddnewid y mannau hynny a’u troi nhw’n weithgareddau sy’n cynhyrchu incwm ac sy’n hygyrch i’r gymuned ehangach.”.

Roedd y wybodaeth a’r profiad a gafwyd drwy gyfrwng y prosiect hwn yn Kenya yn berthnasol iawn yng Nghymru hefyd a bydd Where’s my space? yn archwilio’r model hwn o ran denu cyfranogaeth gan bobl ifanc o gymunedau sy’n gymdeithasol ddifreintiedig yn Kenya ac yng Nghymru.

Bydd y prosiect yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ar-lein, cyfleoedd i gyfranogi mewn pethau fel grwpiau trafod ac adolygiadau portffolio, sgrinio, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a chyflwyniadau eraill i ddiddanu cynulleidfaoedd rhwng Gorffennaf a Medi 2021. Bydd yn dod i ben gydag arddangosiad terfynol yn y bumed o’r gwyliau eilflwydd Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd ym mis Hydref yn hwyrach eleni.