Galwad Agored: Dewis Gymunedau
Mae CPB Foundation mewn cydweithrediad â Ffotogallery Cymru a gyda chefnogaeth British Council yn cyhoeddi galwad agored am artistiaid amlgyfrwng y lens a ffotograffwyr preswyl o India a Chymru ar y thema - ‘Dewis Gymunedau’.
‘Heb gymuned does dim rhyddid […] ond ni ddylai cymuned olygu diosg ein gwahaniaethau, na’r ymhoni truenus nad yw ein gwahaniaethau’n bodoli.’
‘Dylid gwneud llawer mwy na goddef gwahaniaeth, dylid ei ystyried yn gronfa o bolareddau angenrheidiol y gall ein creadigedd wreichioni rhyngddynt fel dialecteg.’ - Audre Lorde
Ar hyn o bryd, rydym yn dechrau ailfeddwl am ein syniadau o gymuned, a chydgyfrifoldeb a gofal. Er bod digwyddiadau’r byd heddiw’n ymddangos mor dorcalonnus, mae’r ddynoliaeth wedi cymryd camau breision ymlaen o ran goddefgarwch, cynhwysiad, a chydraddoldeb. Am ein bod yn byw mewn cyfnod o newid cymdeithasol a gwleidyddol dramatig, mae rhai ohonom yn teimlo’n fwy dewr i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau dirfodol – Ydyn ni’n perthyn i un gymuned, neu i nifer? Oes gennym y fraint o ddewis ein cymunedau neu oes raid i ni ddilyn y dewisiadau sy’n cael eu gwneud i ni?
Estynnwn wahoddiad i artistiaid amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda chyfryngau’r lens, ffotograffiaeth a ffilm i ymholi ymellach i’r syniad o ‘Ddewis Gymunedau’.
Mae’r alwad agored hon am artistiaid a chydweithfeydd sy’n defnyddio eu celf i greu a datblygu cyrff o waith sy’n mynegi eu barn a’u sylwadau ynglŷn â pherthyn a chynhwysiad. Rydym yn croesawu cyflwyniadau am y themâu a ganlyn (ond mae croeso i themâu eraill hefyd):
- rhywedd
- anabledd
- gwleidyddiaeth
- lluniadau hil/cast
- hunaniaeth
- cymunedau cynaliadwy
- dosbarth
Mae’r cyfle hwn yn agored i bawb ac anogwn geisiadau’n arbennig gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Manylion y Grant
- Byddwn yn dewis 5 ymgeisydd ar gyfer yr arddangosfa derfynol.
- Bydd y 5 prosiect a ddewisir yn derbyn honorariwm dynodol (Bydd yr honorariwm fesul prosiect ac nid fesul artist pan fydd ar gyfer prosiectau ar y cyd a chydweithfeydd).
- Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael eu harddangos mewn arddangosfa ffisegol yn Chennai oddeutu mis Ionawr 2023 ac yn rhan o arddangosfa ddigidol ar CPB a Phlatfform Ffotogallery.
- Bydd 3 prosiect rhestr fer arall o’r alwad agored yn rhan o arddangosiad digidol ar CPB a phlatfform Ffotogallery.
- Y trefnwyr fydd yn talu costau’r cynhyrchiad.
Sut i gyflwyno
Rydym yn chwilio am artistiaid sy’n eu mynegi eu hunain mewn ffyrdd amlddisgyblaethol drwy gelfyddyd y lens. Gall y prosiectau fod trwy gyfryngau sy’n cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, sain, fideo/delweddau’n symud, gwaith ar sail testun, a darluniadau, ar yr amod bod rhan o’r prosiect wedi ei seilio ar y lens.
Yr unig ofyniad yw bod ymgeiswyr yn breswylwyr yn y naill wlad neu’r llall neu wrthi’n astudio ar hyn o bryd yn y naill wlad neu’r llall, neu eu bod o dras nad yw’n Indiaidd na Chymreig ond mae ganddynt hawlen breswylio gyfredol ar gyfer y naill wlad neu’r llall. Gwahoddir cydweithfeydd a chyd-brosiectau i wneud cais.
Bydd pob cais yn cael cyflwyno uchafswm o 10 delwedd o un prosiect a hyd at 1 fideo neu brosiect amlgyfrwng wedi ei wneud o ffotograffau a fideos (darluniadau, celf 3D neu unrhyw gyfuniad o’r disgyblaethau hyn).
Llinell amser
- Yr alwad am geisiadau’n agored – 1 Mehefin
- Dyddiad cau i gyflwyniadau - 1 Awst 11:59pm IST (6:29pm GMT)
- Cyhoeddi artistiaid dethol – 30 Awst
- Dyddiad cau i gyflwyno’r gwaith terfynol - 30 Medi
- Yr arddangosfa – Ionawr 2023
Canllawiau Cyflwyno
- Dylid ebostio’r ceisiadau at programming@chennaiphotobiennale.com gyda’r llinell bwnc - CoC Application_Enw_Cyfenw
- Mae angen i’r holl ffeiliau gofynnol gael eu cywasgu i mewn i ffeil sip. Ni ddylai’r ffeil fod yn fwy na 25MB
- Trefn enwau’r ffeil - Application_Enw_Cyfenw(os oes un)_CoC2022
Mae angen cyflwyno’r ceisiadau i gyd yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Ni fydd safon yr iaith yn faen prawf wrth wneud y dewisiadau.
Portffolio
- Gall y portffolio gynnwys gweithiau gyda fformatau ffeil niferus
- Delweddau Llonydd – fformat Jpeg – Lleiafswm o 10 rhif
- Trefn enwau’r ffeil – Portffolio_Enw_Cyfenw(os oes un)_CoC2022_rhif dilyniant
- Fformat Fideo/Sain – Ychwanegwch y dolenni i’r ffeiliau mewn ffeil PDF ar wahân.
- Trefn enwau’r ffeil - Portffolio_ Enw_Cyfenw(os oes un)_CoC2022
- Gwaith wedi ei seilio ar destun – fformat PDF
- Trefn enwau’r ffeil - Portffolio_ Enw_Cyfenw(os oes un)_CoC2022
Cynnig y Prosiect (tua 500 o eiriau)
- Trefn enwau’r ffeil – Project proposal_ Enw_Cyfenw(os oes un)_CoC2022
Bywgraffiad Byr
- Trefn enwau’r ffeil - Bio_Enw_Cyfenw(os oes un)_CoC2022
Rhaid i’r ymgeisydd ddatgelu mewn PDF ar wahân unrhyw sylw y mae’r prosiect hwn wedi ei dderbyn ar ffurf:
- Grantiau blaenorol a dderbyniwyd
- Arddangosfeydd mewn unrhyw fforwm cyhoeddus (rhithiol neu ffisegol)
- Cyhoeddiadau ar unrhyw blatfform yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol (digidol neu analog)
- Trefn enwau’r ffeil - Disclosure_Enw_Cyfenw(os oes un)_CoC2022
Gwybodaeth i dderbynwyr y Grant
- Bydd costau arddangos/cynhyrchu, yn cynnwys argraffu, fframio, gosodiad, goruchwylio a dehongli, wedi eu penderfynu a’u talu gan y trefnwyr mewn trafodaeth â’r artistiaid dewisedig, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.
- Gofynnir i’r artistiaid dewisedig rannu eu cynlluniau am y dangosiadau yn yr arddangosfa ynghyd â chyflwyno’r gweithiau terfynol ym mis Medi 2022.
- Mewn ymgynghoriad â’r artistiaid, bydd y gwaith sy’n cael ei greu a’i gyflwyno’n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r grant drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac mewn cylchlythyrau, fideos a chyfryngau traddodiadol. Bydd disgwyl i artistiaid sydd wedi derbyn dyfarniad ddarparu deunyddiau o’u prosiect a bod ar gael ar gyfer cyfweliadau gyda’r cyfryngau a gyda phlatfformau cymdeithasol Ffotogallery a CPB Foundation. Bydd gwefannau’r trefnwyr a’r grantwyr hefyd yn gwasanaethu fel porth ar gyfer casglu prosesau a chanlyniadau’r prosiect cyfan at ei gilydd.
- Yr artistiaid fydd yn gyfrifol am sicrhau caniatâd hawlfraint yr holl waith sy’n rhan o’r prosiect.
- Trwy wneud cais i’r Alwad agored hon, mae’r ymgeiswyr yn cytuno’n llwyr i gadw at delerau a meini prawf yr Alwad agored.