Sianel / 20 Ebrill 2020

Gair Wythnosol - 20/4/20

Croeso i’r pedwerydd rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o adre i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw gartref, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

Amser Cystadlu

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffeg #silffenestr yr wythnos diwethaf, Konrad Gwóźdź! Diolch i bawb a roddodd gynnig arni – dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn sefydlu oriel ar-lein o’r holl geisiadau a dderbyniwn, felly cadwch lygad ar ein tudalen ‘Sianel’,

Yr wythnos hon mae gennym thema newydd sbon – portreadau anifeiliaid anwes! P’un a ydyn nhw flewog neu’n gennog, yn fawr neu’n fach, rydym eisiau eu gweld nhw. Ceisiwch dynnu lluniau agos i ddangos y manylion, neu dynnu lluniau o bell – peidiwch â bod ofn arbrofi.

Sut i roi cynnig arni:

Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #petportrait. Byddwn yn ail bostio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni. Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.

Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:


The Place I Call Home Ar-lein

Er bod agwedd ffisegol The Place I Call Home wedi dod i ben, mae’r prosiect yn parhau ar-lein! Roedd yr arddangosfa yn Sharjah i fod i redeg tan ddiwedd mis Mai ond mae ein partneriaid yng Nghanolfan Gelfyddydau Maraya wedi creu adnoddau ychwanegol, er enghraifft y daith rithwir 360° hon, y ffilm yma sy’n cynnwys rhai o’r artistiaid, a chystadleuaeth ffotograffau newydd sbon ar-lein gyda gwobrau i’w hennill. Yn ogystal, mae Ffotogallery wedi cynhyrchu cyhoeddiad gwaddol, y gallwch ei weld ar-lein erbyn hyn yn y fan yma. Gwelwch dudalen ‘Straeon’ gwefan y prosiect i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mwy o wybodaeth


Get a ‘Proper’ Job

Mae cyfres Creative Cardiff o bodlediadau’n trafod, dadlau ac arddangos elfennau da a drwg gweithio mewn swydd neu gwmni creadigol, gan ddod ag arbenigwyr yn y diwydiant at ei gilydd i rannu eu gwybodaeth.

Mwy o wybodaeth


Heriau Ffotograffiaeth i Blant

Os oes gennych chi blant i’w cadw’n brysur yn ystod y cyfnod hwn, mae PhotoBite yn lansio heriau tynnu lluniau ddwywaith yr wythnos i blant 5-15 oed.

Mwy o wybodaeth


Photomonitor

Ewch draw i Photomonitor i weld eu casgliad o arddangosfeydd ac adolygiadau llyfrau, cyfweliadau, traethodau ac arddangosfeydd ar-lein – rhad ac am ddim a hygyrch i bawb.

Mwy o wybodaeth


Photomarathon Cymru

Cymerwch ran yn Ffotomarathon Cymru Gyfan a chael cyfle i ddangos eich gwaith mewn arddangosfa ffisegol unwaith y bydd y cyfnod hwn o aros gartref wedi dod i ben.

Mwy o wybodaeth

Lliwio Celfyddyd Gyfredol

Mae mwy na 100 o artistiaid Eidalaidd wedi dod ynghyd i greu lluniau gwreiddiol i chi eu lawrlwytho am ddim, eu printio a’u lliwio – peth da os ydych chi eisiau aros yn greadigol a chymryd hoe o’r sgrin.

Mwy o wybodaeth


Web/Site

Mae Site Gallery yn Sheffield yn agored ar-lein gyda Web/Site – ymunwch â sesiwn gyntaf eu Grŵp Darllen Points of Rupture, dan arweiniad curadur yr oriel Angelica Sule ar 23 Ebrill.

Mwy o wybodaeth