Ers ei ffurfio yn 1978, bu Ffotogallery ar flaen y gad o ran datblygiadau ffotograffig a chyfryngau'r lens gan geisio hybu dealltwriaeth gyhoeddus ac ymwneud dyfnach â ffotograffiaeth a'i werth cymdeithasol.
Cyflawnir hyn trwy gyfrwng:
Darllenwch Ffotogallery: Ein Stori 1978 – 2018 yma.
Wrth roi’r rhaglen uchod ar waith, mae Ffotogallery wedi dewis Nifer o Leisiau, Un Genedl fel fframwaith thematig ar gyfer ein gwaith dros y 5 mlynedd nesaf, gan ddilyn yr egwyddorion hyn: amrywiaeth ddiwylliannol, mynediad a chynhwysiad (gwelwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol), dysgu gydol oes, arloesi a rhagoriaeth. Mae Cynllun Iaith Gymraeg Ffotogallery yn fynegiad o’n hymrwymiad i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg yn ein hymwneud â chynulleidfaoedd a defnyddwyr ein gwasanaethau yng Nghymru.
Rydym yn alinio ein gweithgareddau gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru 2015 ac amcanion strategol Cymraeg 2050.
Mae Ffotogallery yn gwmni di-elw wedi ei gyfyngu trwy warant, ac yn elusen gofrestredig sy’n derbyn cyllid blynyddol gan Gyngor y Celfyddydau.
Rhestriad y Comisiwn Elusennau, yn cynnwys adroddiadau blynyddol.
Cwmni Cofrestredig rhif: 01705938
Elusen Gofrestredig rhif: 513726