Sianel / 19 Tach 2021

Photography and Africa Series

Photography and Africa Series

Aeth Ffotogallery ati i ymgysylltu, cefnogi a rhwydweithio â phrosiectau gan sefydliadau ac artistiaid gweledol Affricanaidd, ers dechrau’r flwyddyn hon. Mae cyllid gan y British Council wedi ein galluogi i weithio ar brosiect cydweithredol Go Digital gyda sefydliad ‘Celfyddiaeth’ (Artivism) o Kenya o’r enw PAWA254. O ganlyniad i’r cydweithredu gwych a ffrwythlon hwn, a chariad at ein gwaith, ganed Where’s my Space?. Mae’r prosiect yn dangos sut mae platfformau digidol yn chwarae rôl allweddol yn yr ymgyrch i gael prosiectau rhyngwladol mwy cynaliadwy. Mae wedi galluogi i waith rhyngwladol uchelgeisiol cyffrous a chreadigol ddigwydd heb deithio’n eang, gan osgoi’r amser a’r costau a’r ôl-troed carbon cysylltiedig. Mae’r cydweithio rhwng artistiaid a sefydliadau yng Nghymru a Kenya wedi creu darbodion maint, trosglwyddiad gwybodaeth a rhannu arbenigedd digidol, llai o wastraff a defnydd mwy effeithlon o adnoddau er budd pawb. Ymhellach, o ganlyniad i’r pandemig, caewyd gofodau lle gallai artistiaid a sefydliadau gwrdd, cyfnewid syniadau a chydweithio’n effeithiol – ond ni lwyddodd hynny i atal y doniau creadigol rhag llifo’n organig. Roedd platfformau cyfathrebu fideo fel Zoom yn gadael i ni fwynhau sgwrsio gyda phobl greadigol o wahanol rannau o’r byd. Hefyd, diolch i Zoom, gallem gynnal ein symposiwm ar-lein cyntaf, a dau weithdy i artistiaid i drafod ffotograffiaeth ac Affrica.

Symposiwm Ar-lein – More Than a Number

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu nad yw ffotograffwyr ac artistiaid gweledol o rannau o Ddwyrain, Gorllewin a Gogledd Affrica yn cael digon o sylw a chynrychiolaeth yn y Gorllewin. Trwy symposiwm ar-lein, a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, estynwyd gwahoddiad i guraduron a siaradwyr gwadd o Affrica gyfan — Sisipho Ngodwana, Stella Nantongo, Fatoumata Diabaté a Wacera Njagi — i gymryd rhan mewn trafodaeth a chynnig awgrymiadau am ffyrdd o ymdrin â’r materion hyn.

Cynrychioli Ehofndra

Gwahoddodd ein gweithdy artistiaid ar-lein cyntaf ar 16 Awst dri artist o’n harddangosfa More Than a Number i drafod eu prosiectau’n fanwl o dan y thema ‘Cynrychioli Ehofndra’. Aeth Amina Kadous, Brian Otieno a Wafaa Samir ati i gyfarch y gynulleidfa gyda’u doethineb, gan drafod y sylw a’r gynrychiolaeth, a’r profiadau a heriau a gawsant wrth weithio yn Affrica.

Cymdeithasoldeb Radicalaidd

Ar 17 Awst aethom ati i wahodd Jacques Nkinzingabo, Maheder Haileselassie Tadese, Steven Chikosi a Fatoumata Diabaté, gyda Zoe Jordan yn gyfieithydd Ffrangeg i ni, i siarad â’r gynulleidfa am eu prosiectau yn ein hail weithdy i artistiaid. Siaradodd yr artistiaid am eu prosiectau’n fanylach, gan fod yn agored a gonest am yr heriau a wynebwyd, er enghraifft y ffotograffwyr Gorllewinol a ddisgynwyd âpharasiwt yn Affrica gan sefydliadau lleol a rhyngwladol i ddogfennu prosiectau, a darparu cynrychiolaeth weledol o Affrica i’r byd.