We Are Here, Because You Were There
Andy Barnham, Dr Sara de Jong
Rhagddangosiad o’r Arddangosfa: Dydd Gwener 27 Ionawr, 6pm
Ym mis Ionawr 2023 bydd hi’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno arddangosfa newydd ‘We Are Here, Because You Were There’, sef prosiect ar y cyd gan y ffotograffydd Andy Barnham a’r ymchwilydd Dr Sara de Jong. Mae’r gwaith yn defnyddio portreadau a dyfyniadau i ddogfennu profiadau cyfieithwyr o Afghanistan a gyflogwyd gan y Fyddin Brydeinig ac a ddaeth i ailgartrefu’n ddiweddar yn y DU.
Mae’r ffotograffydd Andy Barnham wedi golygu’r portreadau i helpu i sicrhau nad oes modd adnabod y cyfieithwyr hynny sy’n dal i fod dan risg, ac sydd â theulu yn Afghanistan sydd o dan fygythiad. Mae’r portreadau a gyflwynwyd yn gyfansoddiad o hyd at ddwsin o fframiau sydd wedi eu pylu neu eu picseleiddio ac sydd wedyn wedi eu gosod dros ei gilydd i gyflwyno portread terfynol. Gellir ystyried bod y broses hon yn peri trawma i’r portreadau, i gydnabod y digwyddiadau a brofwyd wrth wasanaethu gyda lluoedd NATO ac wrth ddianc o Afghanistan.
Daw’r dyfyniadau o gyfweliadau manwl a wnaed gan Sara de Jong, sy’n ymwneud â chymhellion cyfieithwyr o Afghanistan i weithio i Luoedd Arfog Prydain, eu gwaith ochr yn ochr â milwyr, y bygythiadau roedden nhw’n eu hwynebu yn Afghanistan, eu hymgiliad o’r wlad, eu profiadau cynnar yn y DU a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd.
Trwy ganolbwyntio ar straeon y cyfieithwyr Affgan eu hunain, gwahoddir ymwelwyr i ymgysylltu â’r bobl y tu ôl i’r penawdau, ac mae hefyd yn eu hannog i feddwl am y clymau dwfn rhwng y DU ac Afghanistan. Gyda’i gilydd, mae eu straeon a’u lluniau unigol yn adlewyrchu effaith strwythurol a hirbarhaus arferion cyflogaeth milwrol Prydain, ei chyfreithiau mudo a’i pholisi tramor.
Proffil Artistiaid

Andy Barnham
Mae Andy Barnham yn ffotograffydd, cyn-filwr a mab i ffoadur. Mae’n gymysg o ran ei hil (Seisnig/Tsieineaidd) ac yn siarad nifer o ieithoedd (Saesneg, Tsieinëeg, Ffrangeg a Farsi). Cafodd ei eni yn Hong Kong ac aeth i’r ysgol a’r brifysgol yn y DU cyn gwasanaethu fel swyddog yn y Magnelwyr Brenhinol, gan fynd ar gyrchoedd gweithredol nifer o weithiau i Irac, Cyprus ac Afghanistan lle dogfennodd ei brofiadau fel ffotograffydd hamdden. Wedi iddo adael y Fyddin Brydeinig, trodd Andy ei angerdd yn yrfa a glaniodd ar Savile Row lle daeth yn rhan o fyd dilladol Llundain. Am fwy na degawd, bu’n tynnu lluniau’r agweddau gorau o dreftadaeth a chrefft Brydeinig ar gyfer teitlau golygyddol moethus cyn canolbwyntio ei sgiliau arsylwi a rhyngbersonol ar bortreadau. Roedd We Are Here yn un o’r gweithiau buddugol yng ngwobrau ffotograffau Prix de la Photographie 2022, Paris (PX3) yn y categori portreadau.

Dr Sara de Jong
Mae Dr Sara de Jong yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Efrog, ac mae hi’n ymchwilio amddiffyniad ac ailgartrefu cyfieithwyr Afghanistanaidd a gyflogir gan fyddinoedd y Gorllewin. Ers 2017, mae hi wedi cynnal mwy na 80 o gyfweliadau gyda chyfieithwyr ac eiriolwyr yn y DU, yr Unol Daleithiau, Canada, Yr Almaen, Ffrainc a’r Iseldiroedd. Hi hefyd yw un o sefydlwyr yr elusen Sulha Alliance, sy’n eirioli dros gyfieithwyr o Afghanistan a weithiodd i Luoedd Arfog Prydain.