Arddangosfa / 3 Awst – 29 Medi 2018

Ffotoview

Ffotoview
© Amanda Jackson

Suzie Larke, Amanda Jackson, Dan Wood, Megan Winstone, Ellie Hopkins, Ayesha Khan, Sam Ivin, Rob Hudson, Ani Saunders, Jason Thomas, Ann Davies, Abbie Trayler-Smith

Yn rhan o 40:40 Vision, rhaglen flwyddyn o arddangosfeydd, digwyddiadau a phrosiectau i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, mae Ffotogallery yn falch o gyflwyno Ffotoview. Mae'r arddangosfa'n ddathliad o dalentau ffotograffig Cymru ac yn cyflwyno gwaith gan ddeuddeg artist dethol 2018. Mae www.ffotoview.org yn galendr o waith newydd ar-lein a gaiff ei ddiweddaru bob mis.

O eco-bentrefi yng Ngorllewin Cymru i ddelweddau grymusol o fenywod Mwslemaidd, o dirweddau a chymunedau cymoedd de Cymru i brofiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd, mae Ffotoview yn archwilio gwahanol safbwyntiau ar fywyd yn y Gymru gyfoes ynghyd ag amrywiol ddulliau o dynnu lluniau yn yr oes ddigidol.

Cynhelir yr arddangosfa yn 29 Stryd y Castell, Caerdydd, yn y gofod sy'n cael ei ddatblygu fel gofod newydd i Ffotogallery yng nghanol y ddinas. Amserwyd Ffotoview i gyd-fynd â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac mae'n ddathliad o amrywiaeth a thalentau ffotograffig Cymru.

Ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl, bu Ffotogallery ar flaen y gad o ran datblygu diwylliant ffotograffig cyfoes yng Nghymru trwy gyfrwng ein gwaith yn comisiynu ac yn cyflwyno gwaith newydd ar gyfer arddangosfeydd, gwyliau a digwyddiadau rhyngwladol, a thrwy gyfrwng ein cefnogaeth i ffotograffwyr ac artistiaid addawol cyfryngau'r lens.

Rydym yn falch iawn o'ch gwahodd chi i weld arddangosfa Ffotoview yn ein gofod newydd, ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn codi arian i ddatblygu'r gofod hwnnw dros y flwyddyn nesaf.

Mae Ffotoview yn gosod y sylfaen ar gyfer y camau nesaf yng ngwaith Ffotogallery. Fe ddaw cenhedlaeth newydd o ffotograffwyr ac artistiaid cyfryngau'r lens i'r amlwg mewn cyfnod pan ydym yn derbyn ac yn cyflwyno mwy a mwy o gynnwys creadigol ar blatfformau ffisegol a rhithwir fel ei gilydd.

Yn y rhagolwg o arddangosfa Ffotoview ar ddydd Iau 2 Awst, 2018, bydd David Drake yn datgelu mwy am gynlluniau Ffotogallery ar gyfer y ganolfan newydd yng nghanol y ddinas, a’r ymgyrch pen-blwydd i godi arian ar gyfer y ganolfan ffotograffiaeth ryngwladol newydd yng nghanol dinas Caerdydd.