1968: The Fire of Ideas & Taking Liberties
Marcelo Brodsky, John 'Hoppy' Hopkins
John ‘Hoppy’ Hopkins | Taking Liberties
Rhwng 1960 a 1966 darluniodd John ‘Hoppy’ Hopkins y bwrlwm o anfodlonrwydd a’r gwrth-ddiwylliant a oedd yn dod i’r amlwg ym Mhrydain, a fynegwyd trwy weithredu, barddoniaeth a chelf. Mae’r arddangosfa hon ar gyfer Diffusion yn dwyn ynghyd ddetholiad o ddelweddau nad gwelwyd erioed o’r blaen o archif y ffotograffydd, ynghyd â rhai eraill a gynhwyswyd yn y nifer fechan oawn o arddangosfeydd cyhoeddus o’i waith a fu hyd yma. Darlunir y gynhadledd farddoniaeth hanesyddol yn yr Albert Hall ym 1965, ymweliadau cyntaf Malcolm X a Martin Luther King â Llundain, gorymdeithiau Pwyllgor y 100 ac CND, a gwrthdystiadau cynnar yn erbyn hiliaeth ac o blaid hawliau sifil sy’n dangos pŵer protestio cyhoeddus.
Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys deunyddiau yn ymwneud â’i ran mewn gwahanol amlygiadau gwrth-ddiwylliannol, fel yr International Times, a’i ‘lythyron carchar’ o 1967 pan gafodd ei garcharu ar gam am fod â chanabis yn ei feddiant. Roedd llawer yn amau mai’r gwir reswm oedd ei safbwynt gwrth-sefydliad dylanwadol, a oedd yn ennill tir yn y projectau roedd yn rhan ohonynt.
Marcelo Brodsky | 1968 – the fire of ideas
Mae Marcelo Brodsky yn artist ac ymgyrchydd hawliau dynol o’r Ariannin, ac yn gweithio gyda delweddau a dogfennau o ddigwyddiadau penodol er mwyn ymchwilio i faterion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Yn 1968 The Fire of Ideas, mae Brodsky yn defnyddio delweddau archifol o brotestiadau gan fyfyrwyr a gweithwyr ledled y byd ac yn eu hanodi’n ofalus er mwyn dadadeiladu’r cynnwrf cymdeithasol a ledodd ledled y byd ar ddiwedd y 1960au. Mae delweddau o brotestiadau yn erbyn rhyfel Fietnam yn Llundain a Tokyo yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â delweddau o brotestiadau yn Bogota, Rio de Janeiro, Mecsico, Prâg a Sao Paolo yn erbyn cyfundrefnau milwrol a strwythurau llywodraethol gormesol. Am ddegawdau, roedd Brodsky yn berchen ar ac yn gyfarwyddwr asiantaeth luniau â swyddfeydd ledled America Ladin. Mae ei ddealltwriaeth soffistigedig o olygu delweddau, ac o’r modd y mae newid trefn delweddau yn gallu newid y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn eu darllen, yn ei alluogi i ddefnyddio testun a dyfeisiau graffigol i altro safbwynt y gwyliwr ac i ddatgelu haenau o ystyr newydd.
Proffil Artistiaid

Marcelo Brodsky
Mae Marcelo Brodsky (1954) yn byw ac yn gweithio yn Buenos Aires, Yr Ariannin. Yn artist ac ymgyrchydd gwleidyddol, mae gwaith Brodsky yn bodoli ar y ffiniau rhwng gosodwaith, perfformiad, ffotograffiaeth a chofeb. Cafodd ei waith nodedig, Buena Memoria (1996), ei dangos yn gyhoeddus fwy na 150 o weithiau, mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag mewn amgueddfeydd ledled y byd. Mae'n adrodd hanes ei genhedlaeth ef ac effaith unbenaethau yr Ariannin arni – ac yn dangos y tyllau yn ffabrig y genhedlaeth honno a ddaeth yn sgil diflaniadau ei ffrindiau a'i gyd-ddisgyblion.
Mae sioeau a llyfrau unigol Brodsky yn cynnwys Nexo, Memory under Construction, a Visual Correspondences, ei sgyrsiau gweledol gydag artistiaid a ffotograffwyr eraill, fel Martin Parr, Manel Esclusa a Pablo Ortiz Monasterio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys cyhoeddi [email protected]:53 gyda Ilan Stavans, ffoto-nofelig sy'n cyfuno cronicl a ffuglen, a Tree Time, llyfr am y berthynas rhwng y cof a Natur. Ei arddangosfeydd cyfredol yw "1968 The Fire of Ideas" a "Migrants", sydd yn ysgrif weledol am argyfwng ffoaduriaid Ewrop a'i symudiadau ef ei hun. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau mawrion yn Amgueddfa Celfyddydau Cain Houston, Casgliad Tate Llundain, Amgueddfa Gelfyddyd y Metropolitan yn Efrog Newydd, Museo Nacional de Bellas Artes yr Ariannin, Museo de Arte Moderno Buenos Aires, Canolfan Ffotograffiaeth Greadigol Tucson, Arizona, Amgueddfa Sprengel Hannover, y Museo de la Memoria y los Derechos Humanos, Santiago de Chile, MALI Lima, ac eraill.

John 'Hoppy' Hopkins
Roedd John ‘Hoppy’ Hopkins (15 Awst 1937 – 30 Ionawr 2015) yn ffotograffydd a gwneuthurydd fideo ac yn weithredydd gwleidyddol a oedd yn ffigwr blaenllaw ym mudiad tanddaearol y DU yn Llundain. Ym 1965, helpodd i sefydlu ‘Ysgol Rydd Llundain’ yn Notting Hill. Arweiniodd hyn, yn ei dro, at sefydlu carnifal Notting Hill. Ym 1966, cyd-sylfaenodd Hopkins yr International Times dylanwadol, papur newydd tanddaearol radicalaidd a chyhoeddiad ‘amgen’ cyntaf Ewrop. Yn llais i genhedlaeth gyfan, fe’i golygwyd yn y lle cyntaf gan y bardd a’r dramodydd o Glasgow, Tom McGrath (1940 – 2009). Parhaodd Hopkins i fod yn aelod o’r bwrdd golygyddol ac yn un o’i brif gyfranwyr. Helpodd hefyd i sefydlu Clwb chwedlonol yr UFO gyda Joe Boyd; y band preswyl oedd Pink Floyd.