Interventions: Gallery Reset
Jack Moyse
Yn gynharach eleni, gwahoddwyd y ffotograffydd ac artist o Abertawe, Jack Moyse, i ail feddwl am yr oriel gyfan – yn ffisegol ac yn drosiadol – ar ôl ennill yr alwad agored Interventions: Gallery Reset mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru.
Bydd enghreifftiau o brosiect Jack Fi a Ti yn cael eu dangos drwy gydol mis Awst, ochr yn ochr â gwaith newydd a rhaglen o ddigwyddiadau a darnau perfformio.
Mae Fi a Ti yn gyfres o raglenni dogfen mewngolyddol sy’n dilyn artist ifanc wrth iddo ymdrechu i ddeall yr effeithiau meddyliol a chorfforol o’r anabledd mae e wedi cael ers yn 17. Mae ei adlewyrchiadau yn dangos naratif sy’n cynnwys cipolwg ar gyfran fach o’r llu o rwystrau mae pobl sydd ag anableddau yn eu profi, gan gynnwys perthnasau romantig, y gallu i fagu plant, ag anghyfiawnder.
Trwy ffotograffiaeth yn bennaf, mae’r prosiect yn cwestiynu safbwyntiau rhagfarnol. Mi fydd yn archwiliad trwy brofiad anabledd go iawn, gan gynnig mewnwelediad i fywyd dyddiol grŵp ymylol y mae gweddill y gymdeithas ân aml yn ddall iddynt.
Mae Interventions: Gallery Reset yn gyfres o sesiynau meddiannu’r oriel diolch i gymorth grant ‘Reimagine’ Art Fund, sy’n rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid arbrofi, herio a gofyn cwestiynau pryfoclyd, gyda ffocws ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhywedd, anghydraddoldeb cymdeithasol a’r amgylchedd.
Proffil Artist

Jack Moyse
Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Jack wedi derbyn gwahoddiadau i siarad mewn nifer o golegau, prifysgolion, gwyliau ffotograffiaeth a symposia, yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin a’r Trauma Porn Symposium ym Mryste (gyda chefnogaeth Grŵp Ymchwil Ffotograffiaeth Bryste). Ym mis Ebrill eleni cafodd ei wahodd i arddangos mewn cynhadledd Iachâd Trwy Ffotograffiaeth, a chyfrannu ynddi, yn Belfast Exposed.