Digwyddiad
/ 1 Awst – 31 Gorff 2022
Dathlu Pride yn Ffotogallery
Trwy gydol mis Awst, bydd Ffotogallery yn cynnal rhaglen wych o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu a rhoi llwyfan i’r gymuned LHDTQ+.
Mae ein rhaglen, a fydd yn para am fis, yr un mor amrywiol â’r gymuned yr ydym yn ei dathlu ac yn siŵr o gynnig rhywbeth i bawb. Mae gennym weithdai creadigol, trafodaethau, sgyrsiau gan artistiaid, ffilmiau a llawer iawn mwy ar y gweill, gyda ffocws ar bynciau LHDTQ+.
Dyma rai o uchelbwyntiau’r rhaglen:
- Digwyddiad cymdeithasol arbennig Dydd Mawrth Te a Theisen 2il Awst, 11am-1pm
- Dydd Sadwrn 6ed Awst: Dyma Fi! nifer o weithdai creadigol yn archwilio themâu hunaniaeth, 12-5pm.
- Queer Flicks: Noson o ffilmiau byr gyda themâu LHDTQ+ ar Ddydd Gwener 12fed Awst, 8-10pm.
- Lluniau Ohonot Ti: Taith gerdded ffotograffig o amgylch Canol Dinas Caerdydd gydag Aaron Lowe, yn edrych ar themâu hunaniaeth, dydd Sul 14eg Awst 2-4pm.
- Sgyrsiau Artistiaid o’r Gydweithfa On Your Face ar Ddydd Mawrth 16eg Awst, 7-8pm.
- Paratoi’r Ffordd: Sut mae Hanes LHDTQ+ wedi Dylanwadu ar Gymuned Heddiw. Bydd trafodaeth panel yn archwilio profiadau ar draws y cenedlaethau ar Ddydd Iau 18fed Awst, 6-8pm.
- Altered Images: Gweithdy diwrnod cyfan yn archwilio prosesau ffotograffig arbrofol o amgylch y thema ‘hunaniaeth’ gyda Michal Iwanowski yn Ystafelloedd Tywyll y Golchdy yn Stiwdios Made In Roath ar Ddydd Sadwrn 20fed Awst.
Bydd The Queer Emporium yn meddiannu ein siop am y mis cyfan hefyd.
Mae pob digwyddiad am ddim.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn hir gyda manylion am ddigwyddiadau eraill.
Disgwyliwch weld pobl yn meddiannu Instagram drwy gydol y mis hefyd.