Mae Ffotogallery yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn ffotograffiaeth a chyfryngau digidol sy’n addas ar gyfer pob gallu, ac sy’n hawdd eu bwcio ar ein gwefan yn y fan yma.
Caiff myfyrwyr Ffotogallery elwa ar y cyfleusterau ffantastig y gall Academi’r Celfyddydau eu cynnig. Arweinir y cyrsiau gan ffotograffwyr ac artistiaid creadigol proffesiynol, gan sicrhau profiad dysgu cytbwys a chyffrous.
Arweinir y dosbarthiadau gan artistiaid, ar ffurf grwpiau bach mewn awyrgylch anffurfiol, ddifyr. Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau drwy gyfres o brojectau ymarferol a sgyrsiau disgrifiadol sy’n archwilio’r effaith ffotograffiaeth a chyfryngau digidol mewn cyd-destun diwylliannol a hanesyddol. Mae’n holl gyrsiau’n rhedeg am ddeg wythnos, ac fe’u cynhelir deirgwaith y flwyddyn yn cychwyn ym mis Medi, Ionawr ac Ebrill. Cynhelir dosbarthiadau ar ffurf deg sesiwn wythnosol gyda’r nos, neu bum sesiwn bythefnosol ar benwythnos neu yn y dydd yn ystod yr wythnos. Bydd gan fyfyrwyr sydd am gyflwyno’u gwaith i’w asesu wedyn rai wythnosau wedi i’r cwrs orffen i gwblhau gweithiau project i’w rhoi ger bron.
Mae Ffotogallery yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn ffotograffiaeth a chyfryngau digidol sy’n addas ar gyfer pob gallu, ac sy’n hawdd eu bwcio ar ein gwefan yn y fan yma.
“Profiad cyffrous yw gweithio gyda sefydliad ffotograffiaeth enwog Caerdydd, Ffotogallery, yn Academi Celfyddydau Caerdydd ar Stryd Trade. Mae ein BA mewns Ymarfer Ffotograffig, ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnig y datblygiad proffesiynol ac academaidd sydd ei angen ar fyfyrwyr, tra’n hyrwyddo creadigrwydd unigol beunydd. Testun balchder i ni yw ein bod yn gallu helpu i ddatblygu sîn ffotograffig Caerdydd ymhellach gyda chymorth Ffotogallery, trwy eu gwahodd i mewn i’n hacademi i rannu ein cyfleusterau gwych.”
Matthew Rees, Rheolydd Cwricwlwm, Celfyddydau Creadigol, Coleg Pen-y-bont
029 2034 1667
“Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi y rhedir rhaglen gyrsiau Ffotogallery o Academi’r Celfyddydau yn Stryd Trade, Caerdydd, mewn partneriaeth newydd gyffrous gyda Choleg Pen-y-bont. Mae Academi’r Celfyddydau yn gyfleuster canol-dinas gwych sy’n cynnig y cyfleusterau cynhyrchu diweddaraf, yn cynnwys stafell dywyll, stiwdio a goleuo ffotograffig, argraffu digidol a chyfrifiaduron Mac sy’n rhedeg Adobe Creative Suite. Bydd Ffotogallery yn ail-lansio ein rhaglen o gyrsiau a gweithdai ar ei newydd wedd ym mis Gorffennaf; fe’i datblygwyd ar y cyd â Choleg Pen-y-bont a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarparu rhaglen gyffrous a chreadigol o gyrsiau min-nos lefel-mynediad i fyfyrwyr.
Lisa Edgar, Pennaeth Addysg, Ffotogallery